Ramsar sites in Wales: government policy statement (Welsh version)

SAFLEOEDD RAMSAR YNG NGHYMRU
DATGANIAD POLISI
Cyflwyniad
1. Maer Confensiwn ar Wlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol yn arbennig fel Cynefin Adar y Dwr (y Confensiwn Ramsar), a arwyddwyd yn Ramsar, Iran, ym 1971 yn gytundeb rhynglywodraethol syn darparur fframwaith ar gyfer cadwraeth gwlyptiroedd a defnyddior rheiny au hadnoddaun ddoeth, trwy weithredu ar lefel genedlaethol a thrwy gydweithrediad rhyngwladol fel cyfraniad at sicrhau datblygu cynaliadwy ledled y byd. Ym mis Mai 2000 roedd 121 o Bartïon Contract yn perthyn ir Confensiwn. Roedd y DU wedi dilysur Confensiwn ym 1976. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymon llwyr i weithredur Confensiwn yn effeithiol.
2. Un o brif ddulliaur Confensiwn Ramsar i geisio diogelu gwlyptiroedd a buddiannau gwlyptiroedd yw trwy restru safleoedd ar y Rhestr Ramsar o Wlyptiroedd o Ddiddordeb Rhyngwladol. Ym mis Mai 2000, roedd 1027 o safleoedd yn cwmpasu dros 78 miliwn hectar ar y Rhestr Ramsar. Bryd hynny roedd y DU wedi rhestru 157 safle yn cwmpasu bron 738,000 hectar.
3. Maer Cydbwyllgor Cadwraeth Natur, sef ymgynghorydd statudol y Llywodraeth ar faterion cadwraeth rhyngwladol, ar hyn o bryd yn gwneud arolwg or rhestr o safleoedd Ramsar y DU, gan gymryd i ystyriaeth Benderfyniad VII.11 y Confensiwn (Fframwaith Strategol a Chanllawiau ar gyfer Datblygu Ymhellach estr Gwlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol y Confensiwn ar Wlyptiroedd). Bwriad y Llywodraeth yw cyhoeddi rhestr ddiwygiedig o safleoedd cyn yr 8fed Gynhadledd o Bartïon Contract (COP) yn 2002, a dynodi unrhyw safleoedd newydd syn bodlonir meini prawf ar gyfer dethol erbyn y 9fed COP yn 2005. Bydd hyn yn cyfrannu at darged y Confensiwn Ramsar ei hunan, sef 2000 o safleoedd wedi eu rhestru ledled y byd erbyn 2005.
4. Maer datganiad hwn yn gosod allan bolisïaur Cynulliad ar warchod a rheoli safleoedd Ramsar yng Nghymru, sef 10 ohonynt yn cwmpasu dros 30,861 hectar ar ddiwedd Rhagfyr 2000.
Safleoedd Ramsar yng Nghymru y sefyllfa bresennol
5. Mae pob ardal ddaearol sydd wedii chynnwys yn y safleoedd Ramsar rhestredig yng Nghymru hefyd yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), a bwriad clir y Cynulliad yw y bydd hynnyn parhau. Felly, maent yn dod o dan yr un trefniadau âr SoDdGA eraill a ddynodwyd gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 wedi gwellar warchodaeth sydd ar gael i SoDdGA yn fawr, ac wedi ei gwneud yn haws i Gyngor Cefn Gwlad Cymru greur amodau lle gall eu buddiannau cadwraeth gael eu rheolin gadarnhaol. Yn hynny o beth, bydd y diwygiadau ir Ddeddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1981 fel sydd wedi eu gosod allan yn y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn gwella gallu Llywodraeth y DU i gyflawni ei hymrwymiadau o dan y Confensiwn.
6. Maer Cyfarwyddyd Cynllunio (Cymru) cyfredol: Nodyn Polisi Cynllunio a Chyngor Technegol (Cymru) 5 yn sicrhaur un warchodaeth ar lefel bolisi i safleoedd Ramsar rhestredig mewn perthynas â datblygiadau newydd âr hyn a roddir i safleoedd a ddynodwyd o dan Gyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd fel rhan o rwydwaith Natura 2000 yr Undeb Ewropeaidd (UE).
7. Mae Erthygl 6 y Gyfarwyddeb Cynefinoedd (fel yi trosglwyddwyd i gyfraith y DU drwyr Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, ayb) 1994 fel yu diwygiwyd ac a elwir hefyd yn Rheoliadau Cynefinoedd) yn ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gynllun neu brosiect newydd, syn cynnwys cynnig am ddatblygu ac syn debygol o gael effaith sylweddol ar safle Natura 2000, yn cael ei asesu o safbwynt ei oblygiadau ir safle o ystyried amcanion cadwraeth y safle. Os dawr asesiad hwnnw ir casgliad y byddair prosiect yn cael effaith andwyol ar ddilysrwydd y safle, ni all y prosiect fynd yn ei flaen oni bai nad oes atebion eraill ar gael, neu fod ei fudd ir cyhoedd yn llawer mwy. Yn ogystal, rhaid cymryd camau cydadferol er mwyn cynnal cydlyniad rhwydwaith Natura 2000. Yr oedd Datganiad Amlinellol o Safbwynt Llywodraeth y DU ar y Gyfarwyddeb Adar a Chynefinoedd a gyhoeddwyd ym mis Mai 1998 (a gyfeirir ato fel arall yn Ddatganiad Llywodraeth) yn rhoi cyfarwyddyd pellach ar ddefnyddio Erthygl 6.
8. Fel mater o bolisi, maer Cynulliad yn gosod yr un fframwaith fwy neu lai i safleoedd Ramsar rhestredig ag i safleoedd Natura 2000. Mae paragraffau 15-27 y datganiad polisi hwn yn tynnu sylw at y ffordd y bydd y fframwaith hwnnwn berthnasol i safleoedd Ramsar, ac yn rhoi cyfarwyddyd pellach arno.
Y Cysylltiad â Natura 2000
9. Ar ddiwedd Rhagfyr 2000 roedd 13 o Ardaloedd Gwarchod Arbennig (AGAau) wedi eu dosbarthu o dan y Gyfarwyddeb Adar, ac 81 o ymgeiswyr Ardaloedd Arbennig Cadwraeth (AAC) o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd gan gwmpasu 85,982 ha a 419,354 ha yn ôl eu trefn, yng Nghymru.
10. Or 10 safle Ramsar yng Nghymru, dim ond un syn llwyr y tu allan ir rhwydwaith o safleoedd Natura 2000. Maer gweddill naill ain cyd-ddigwydd neun gorgyffwrdd â safleoedd AGA neu ymgeiswyr AAC. Nid ywr Cynulliad yn rhagweld y bydd cyfran y safleoedd Ramsar sydd y tu allan i rwydwaith Natura 2000 yn debygol o newid yng ngoleunir adolygiadau arfaethedig i rwydweithiau safleoedd AGA ac AAC.
Materion Rheolaeth
11. Cyngor Cefn Gwlad Cymru, ymgynghorydd statudol y Cynulliad ar faterion cadwraeth natur, syn gyfrifol am sicrhau hyrwyddo cadwraeth a defnyddior holl safleoedd Ramsar yn ddoeth drwy reolaeth ac amrywiol fesurau eraill.
12. Mae Penderfyniad V.7 a fabwysiadwyd gan Gonfensiwn Ramsar ym 1993 yn ei gwneud hin ofynnol ir holl safleoedd Ramsar gael cynllun rheoli. Mae cynllun rheoli gan yr holl ardaloedd a gaiff eu cynnwys yn y safleoedd Ramsar yng Nghymru, neu fe fydd hynnyn digwydd. Bydd y cynllun rheoli yn ymgorffori amcanion cadwraeth ar gyfer buddiannau Ramsar. Pan fydd cynllun rheoli ar gyfer saflen cwmpasu mwy nag un dynodiad, gofynnwyd i Gyngor Cefn Gwlad Cymru sicrhau bod y cynlluniaun cynnwys buddiannau Ramsar yn ddigonol, yn enwedig lle bor rhain yn ehangach na buddiannau Natura 2000. Gofynnwyd ir Cyngor hefyd sicrhau bod y cynlluniaun gyson âr cyfarwyddyd arfer gorau sydd wedii gynnwys yng Nghyfarpar Ramsar (gweler paragraff 29).
13. Anogir yr holl gyrff statudol syn ymwneud ag ariannu cadwraeth ar safleoedd a ddynodwyd yn ogystal ag yng nghefn gwlad yn ei ystyr ehangach, i ddatblygu a defnyddio cynlluniau i gefnogi rheoli safleoedd Ramsar au buddiannau yn gadarnhaol.
Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000
14. Maer Ddeddf yn gosod dyletswydd newydd ar y Cynulliad i hysbysu Cyngor Cefn Gwlad Cymru am ddynodiadau Ramsar yng Nghymru, ac yn dilyn hynny ar y Cyngor Cefn Gwlad Cymru i hysbysu perchnogion a deiliaid a chyrff penodol eraill. Bydd y ddyletswydd hon yn golygu bod y gweithdrefnau hysbysu ar gyfer safleoedd Ramsar yn cyd-fynd â r rheiny ar gyfer safleoedd a ddynodwyd yn SoDdGA, AGA ac AAC.
Polisïau cynllunio
15. Bydd y rhan fwyaf o gynigion datblygu newydd syn debygol o effeithio ar safle Ramsar yn gofyn bod angen Asesiad o Effaith Amgylcheddol o dan y Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesiad o Effeithiau Amgylcheddol) 1988 fel yu diwygiwyd. O gymhwyso darpariaethau Rheoliadau Cynefinoedd i safleoedd Ramsar, mae Cyfarwyddyd Cynllunio (Cymru): Polisi Cynllunio yn ei gwneud yn ofynnol bod pob cynnig datblygu syn debygol o gael effaith sylweddol ar safle tebyg yn amodol ar asesiad priodol or goblygiadau ar gyfer y safle, o ystyried amcanion cadwraeth y safle hwnnw. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gynnig y mae corff statudol neu awdurdod cymwys yn arfaethu ei gyflawni ei hun. Wrth gynnal asesiad, mae gofyn ir awdurdod cymwys ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru a rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir. Er mwyn bodloni ymrwymiadaur polisi hwnnwn llawn, bydd angen ir awdurdod sicrhau bod ei asesiad yn rhoi ystyriaeth lawn ir holl fuddiannau Ramsar y dynodwyd y safle ar eu cyfer, a pha mor agored y maent i unrhyw rai o effeithiaur datblygiad arfaethedig.
16. Maer Rheoliadau Cynefinoedd yn ei gwneud hin ofynnol i awdurdodau cymwys wneud asesiad priodol o unrhyw gynllun neu brosiect syn debygol o gael effaith sylweddol ar safle Natura 2000. Lle mae safleoedd Ramsar yn cyd-ddigwydd neun gorgyffwrdd â safleoedd Natura 2000, mae angen i awdurdodau hefyd sicrhau bod eu hasesiad yn rhoi ystyriaeth lawn i fuddiannau Ramsar ar y safle ac unrhyw agweddau ar fod yn agored i niwed yn sgîl effeithiaur cynnig, er mwyn cyflawniu hymrwymiadau polisi yn unol â Chyfarwyddyd Cynllunio (Cymru): Polisi Cynllunio.
17. Safleoedd gwlyptir yw rhai or safleoedd mwyaf bregus ac agored i niwed yn y gyfres SoDdGA, ac maent yn aml yn agored i newidiadau hydrolegol neu newidiadau eraill syn digwydd ar y safle ac oddi arno. Mae angen i asesiadau fod yn ofalus wrth ystyried effeithiau anuniongyrchol cynigion yn ogystal âr effeithiau uniongyrchol ag effeithiau cronnus datblygu fesul tipyn.
Ystyriaethau Arbennig
18. Mae Datganiad y Llywodraeth ym mis Mai 1998 ar y Gyfarwyddeb Adar a Chynefinoedd wedi rhoi cyfarwyddyd helaeth ar weithredu Erthygl 6 y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, a ffactorau perthnasol iw pwyso au mesur wrth wneud dyfarniadau sydd er budd y cyhoedd. Wrth wneud penderfyniadau ar safleoedd Ramsar, bydd angen ystyried geiriad Erthygl 4 o Gonfensiwn Ramsar, syn caniatáu Parti Contract i ddileu neu gyfyngu ffiniaur safleoedd sydd er budd cenedlaethol dybryd.
19. Dylid dilyn yr egwyddorion cyffredinol a ddehonglir ym mharagraffau 8 i 11 or Datganiad ar y Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd wrth gymhwyso darpariaethaur Cyfarwyddyd Cynllunio (Cymru): Polisi Cynllunio parthed safleoedd Ramsar rhestredig. Barn y Cynulliad yw nad oes yn rhaid ir cynnig datblygu fod o bwys cenedlaethol ohonoi hun i fodlonir gofynion sydd wediu gosod allan yn Erthygl 4 y Confensiwn. Fodd bynnag, rhaid i unrhyw fanteision syn deillio or cynnig ddangos yn glir eu bod yn fwy pwysig na gwerth cadwraeth ryngwladol gydnabyddedig y safle. Felly, nid yw prosiectau sydd o bwys rhanbarthol neu leol cyfyngedig yn debygol o fodlonir prawf hwn.
20. Mae Erthygl 4 o Gonfensiwn Ramsar yn ei gwneud hin ofynnol i Bartïon Contract, syn dileu safleoedd neun cyfyngu ar ffiniau safleoedd, drefnu camau cydadferol i wneud iawn am golli buddiannau cadwraeth. Maer Cynulliad or farn y dylai camau cydadferol sicrhau o leiaf dim gwir golled i werth cyffredinol cyfres safleoedd Ramsar y DU, o safbwynt ansawdd nac arwynebedd. Barn y Cynulliad yw y dylai egwyddorion a ddehonglir ym mharagraff 11 o Ddatganiad y Llywodraeth ar Gyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd hefyd gael eu cymhwyso pan fydd angen camau cydadferol ar gyfer buddiannau Ramsar a gollwyd. Hynny yw, byddain rhaid bod disgwyliad rhesymol fod unrhyw gamau tebyg syn cynnwys adfer neu ail-greu cynefin yn mynd i fod yn llwyddiannus, a bod unrhyw fesurau tebyg yn cael eu cyflawni o fewn amserlen syn diogelu buddiannau cadwraeth natur unrhyw rywogaeth syn byw yno. Maer Cynulliad yn disgwyl y bydd pecyn addas o gamau cydadferol fel rheol yn amod ar unrhyw ganiatâd a roddir, a lle bo hynnyn bosib, y datblygwr fydd yn gyfrifol am gostau unrhyw fesurau tebyg yn unol âr egwyddor mair llygrwr syn talu.
Trefniadau datblygu a rhoi caniatâd
21. Mae gan safleoedd Ramsar y potensial i fod yn agored i niwed gan ddatblygiadau syn cael eu rheoleiddio gan drefniadau ar wahân i fframwaith rheoli datblygu. Er enghraifft, mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn rheoleiddio ystod eang o drefniadau rheoli gwastraff, arllwysiad a gweithgareddau tynnu dwr. Mae Gweinidogion yn disgwyl y dylair sawl sydd â chyfrifoldebau tebyg, yn cynnwys y Cynulliad ei hun, ddilyn y dull polisi a argymhellir yn y Cyfarwyddyd Cynllunio (Cymru): Polisi Cynllunio mewn perthynas â datblygiadau syn debygol o effeithion sylweddol ar safleoedd Ramsar rhestredig.
Adolygu caniatadau
22. Mae Rheoliad 50 or Rheoliadau Cynefinoedd, yn ei gwneud hin ofynnol fod caniatadau syn bodoli (h.y. na chawsant eu gweithredu neu sydd wedi eu gweithredun rhannol) ar safleoedd Natura 2000 yn cael eu hadolygu. Nid oes darpariaethau tebyg ar gyfer safleoedd Ramsar a dyna, hyd yma, ywr prif wahaniaeth rhwng y ddau.
23. Yn achos y mwyafrif llethol o safleoedd Ramsar, bydd adolygu caniatadau ar safleoedd Natura 2000 o dan ddarpariaethau Rheoliad 50, fel rheol, yn ddigon i sicrhau bod buddiannau safleoedd Ramsar wedi eu gwarchod yn ddigonol.
24. Disgwylir i awdurdodau cynllunio lleol ymestyn rhychwant eu hasesiadau priodol wrth gynnal adolygiadau Rheoliad 50 ar safleoedd Natura 2000 er mwyn ystyried yr effeithiau ar safleoedd Ramsar syn cyd-ddigwydd neun gorgyffwrdd. Os dawr awdurdod cynllunio ir casgliad na fyddai estyn caniatâd yn cael unrhyw effaith andwyol ar ddilysrwydd y safle Natura 2000 ond y byddai effaith andwyol ar ddilysrwydd y safle Ramsar, dylai ystyried a ddylai gyhoeddi gorchymyn newid neu ddirymiad gan ddefnyddior pwerau sydd ar gael o dan Adran 97 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Mewn achosion lle maer awdurdod or farn fod cyfiawnhad dros newid neu ddirymiad, bydd y Cynulliad yn ystyried digolledur awdurdodau lleol ller oedd y costaun uchel, lle nad oedd y gweithredun ddim mwy nag oedd yn angenrheidiol i gael gwared ar y risg ir safle a bod posibiliadau llai costus eraill wedi eu gwyntyllun llawn.
25. Disgwylir i awdurdodau cynllunio lleol fabwysiadu dull tebyg pan nad yw safleoedd Ramsar rhestredig o fewn y rhwydwaith Natura 2000 drwy gynnal asesiad priodol cyfatebol ir hyn syn ofynnol o dan Reoliad 50 a thrwy gyhoeddi gorchmynion newid neu ddirymu o dan Adran 97 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cyn gynted ag y bo modd yn dilyn rhestru safle Ramsar. Lle byddai dilysrwydd safle Ramsar yn cael ei effeithion andwyol o weithredu caniatâd syn bodolin barod yn llawn ac y gellir cyfiawnhau newid neu ddirymur caniatâd, bydd y Cynulliad eton ystyried digolledu awdurdod lleol ller oedd y costaun uchel, lle nad oedd y gweithredun ddim mwy nag oedd yn angenrheidiol i gael gwared ar y risg ir safle a bod posibiliadau llai costus eraill wedi eu gwyntyllun llawn.
26. Maer Cynulliad yn disgwyl i awdurdodau cymwys, ac eithrio awdurdodau cynllunio, ddefnyddio pa bynnag bwerau adolygu sydd ar gael o fewn y drefn y maent yn ei gweinyddu i fynd ir afael ag unrhyw effeithiau andwyol potensial i ddilysrwydd safleoedd Ramsar rhestredig o ganlyniad i ganiatadau syn bodolin barod, trwy fabwysiadu dull cyfatebol cyffredinol ir hyn a argymhellir ar gyfer awdurdodau cynllunio ym mharagraffau 24 a 25 uchod.
27. Maer Cynulliad or farn nad ywr galw ychwanegol ar arian cyhoeddus o gymhwyso paragraffau 24 i 26 yn debygol o fod yn sylweddol o ystyried y gyfran uchel iawn o safleoedd Ramsar sydd eisoes wedii chynnwys yn y rhwydwaith Natura 2000 a darpariaethau adolygu Rheoliad 50 or Rheoliadau Cynefinoedd. Disgwylir ir mesurau presennol hyn warchod buddiannau Ramsar yn y mwyafrif llethol o achosion.
Materion Ehangach
28. Mae safleoedd dynodedig yn cael eu heffeithio, i raddau mwy neu lai, gan weithgareddau syn digwydd yn gyfagos neu i ffwrdd or safleoedd hynny, yn ogystal ag arnynt. Mae safleoedd gwlyptir yn arbennig o agored i niwed gan ffactorau megis newid hydrolegol o fewn y safle neun gyfagos iddo. Maer Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i hyrwyddo cadwraeth a gwella Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Maer Cynulliad yn disgwyl i gyrff cyhoeddus, wrth gwrdd âr dyletswydd newydd, roi sylw arbennig i anghenion y safleoedd Ramsar rhestredig. Lle nad ydynt wedi gwneud hynnyn barod, bydd angen i gyrff cyhoeddus ymgorfforir ystyriaethau hyn iw meddylfryd strategol au peirianwaith cynllunio.
29. Mae Erthygl 3.1 o Gonfensiwn Ramsar yn ei gwneud yn ofynnol bod Partïon Contract yn creu ac yn gweithredu eu cynllunio i hyrwyddo cadwraeth gwlyptiroedd sydd ar y Rhestr a, chyn belled ag y bo modd, yn defnyddio gwlyptiroedd sydd yn eu tiriogaeth yn ddoeth. Mae Confensiwn Ramsar wedi datblygu a mabwysiadu Canllawiau ar gyfer Gweithredur Cysyniad o Ddefnydd Doeth. Yn ogystal, maen ddiweddar wedi cyhoeddi Llawlyfrau Ramsar ar Ddefnydd Doeth*, naw llawlyfr (a elwir yn Gyfarpar Ramsar") syn ymgorfforir canllawiau arfer gorau, syn cynnwys astudiaethau achos, darluniau, a deunyddiau defnyddiol eraill, a ddatblygwyd ac a gymeradwywyd gan Gynhadledd Partïon Contract. Maer Cynulliad yn cymeradwyor dogfennau hyn i gyrff statudol fel ffynonellau cyfarwyddyd a chymorth technegol gwerthfawr ar sut y dylid mynd ir afael â materion defnydd doeth.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Chwefror 2001
*Mae copïau o gyhoeddiadau Confensiwn Ramsar ar gael ar wefan y Confensiwn ar: www.ramsar.org .
Mae gwybodaeth bellach ar Natura 2000 ar gael ar wefan y Comisiwn Ewropeaidd ar: http://europa.eu.int/comm/environment/nature/natura.htm


